Ceredigion Innovators share Knowledge and Expertise

Written by on 13 June 2017

A Ceredigion food innovation business is hosting an open day to share their knowledge with food and drink businesses throughout Wales, to help them develop new products ready for the market place.

 

Food Centre Wales, which offers technical support for the food industry in Wales is inviting food producers and people at the start of developing their food product idea to see its pioneering work first-hand as part of the showcase Wales Festival of Innovation, a national programme of events to celebrate ground-breaking activity in Wales.

 

Eirlys Lloyd, Centre Manager said: “We are very excited to be taking part in the festival and eager to share with others the knowledge of our dedicated team here. There is a great spirit of creativity among the team here, which has led to significant advances in new food product development that are making a big impact in the marketplace”.

 

Tours of the centre and 1-2-1 Diagnostic Clinics with expert food technologists are set to run at Food Centre Wales, Horeb Business Park, Llandysul, Ceredigion, on 20 June 2017.

 

Food Centre Wales was set up in 1996 as a dedicated food technology centre by Ceredigion County Council as part of its Economic Development strategy. It is an advice and consultancy facility offering technical services to business start-ups, SME’s and existing food manufacturers and plays a strategic role in the technical support of the Welsh Food Industry. The Research and Development building, has fully equipped process areas and manufacturing facilities available for commercial hire and was opened in 2001 with funding from the National Assembly for Wales’ Welsh Capital Challenge Scheme. The centre is also used as a “launch pad” for new and innovative ideas in the Welsh Agri-Food Industry, working closely with the Welsh Government Food Directorate.

 

The event is part of the Wales Festival of Innovation, a fortnight-long celebration of discovery and invention, which will see a host of interactive events take place across the country from 19 June to 30 June.

 

The Wales Festival of Innovation is led by the ESTnet (the technology network for Wales) and the Knowledge Transfer Network with the support of industry partners and Welsh Government.

 

Festival spokesperson Idris Price, who is also a director of ESTnet (the technology network for Wales), said: “The Festival of Innovation returns with a clear goal to build on the unprecedented successes of 2016, to champion the unique culture of innovation that exists in every region in Wales. With the fantastic support of innovators like Food Centre Wales we are certain to achieve our goals.

 

To book a space on this event please phone Food Centre Wales 01559 362230 or email gen@foodcentrewales.org.uk

 

For further details about the Festival visit www.festivalofinnovation.org

 

Mae busnes arloesi bwyd yng Ngheredigion yn cynnal diwrnod agored i rannu ei wybodaeth â busnesau bwyd a diod ledled Cymru i’w helpu i ddatblygu cynhyrchion ar gyfer y farchnad.

 

Mae Canolfan Bwyd Cymru, sy’n cynnig cymorth technegol i’r diwydiant bwyd yng Nghymru, yn gwahodd cynhyrchwyr bwyd a phobl sy’n dechrau datblygu eu syniad am gynnyrch bwyd i ddod i weld ei waith arloesol fel rhan o’r sioe arddangos Gŵyl Arloesedd Cymru, sef rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau i ddathlu gweithgarwch sy’n torri tir newydd yng Nghymru.

 

Dywedodd Eirlys Lloyd, Rheolwr y Ganolfan: “Mae’n gyffrous iawn i gymryd rhan yn yr ŵyl ac rydym yn awyddus i rannu yr wybodaeth sydd gan ein tîm ymroddedig â phobl eraill. Mae ysbryd da o greadigrwydd gan ein tîm sydd wedi arwain at ddatblygiadau mawr ym maes datblygu cynhyrchion bwyd newydd, ac mae hynny’n cael effaith fawr yn y farchnad.”

 

Bwriedir cynnal teithiau tywys o’r ganolfan a Chlinigau Diagnostig un i un â thechnolegwyr bwyd arbenigol yng Nghanolfan Bwyd Cymru, Parc Busnes Horeb, Llandysul, Ceredigion, ar 20 Mehefin 2017.

 

Sefydlwyd Canolfan Bwyd Cymru fel canolfan technoleg bwyd bwrpasol yn 1996 gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’i strategaeth Datblygu Economaidd. Mae’n gyfleuster cynghori ac ymgynghori sy’n cynnig gwasanaethau technegol i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a gweithgynhyrchwyr bwyd, ac mae’n chwarae rôl strategol yn y gwaith o ddarparu cymorth technegol i Ddiwydiant Bwyd Cymru. Mae mannau prosesu llawn offer a chyfleusterau gweithgynhyrchu yn yr adeilad Ymchwil a Datblygu sydd ar gael i’w hurio’n fasnachol, ac fe’i agorwyd yn 2001 gyda chyllid gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cynllun Her Cyfalaf Cymru. Mae’r ganolfan yn cael ei defnyddio fel “safle lansio” syniadau newydd ac arloesol hefyd ar gyfer Diwydiant Bwyd-amaeth Cymru, gan gydweithio’n agos â Chyfarwyddiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Arloesedd Cymru lle mae darganfod ac arloesi yn cael eu dathlu mewn llu o ddigwyddiadau rhyngweithiol sy’n cael eu cynnal ar draws y wlad am bythefnos o 19 i 30 o Fehefin.

 

Mae Gŵyl Arloesedd Cymru yn cael ei harwain gan ESTnet (rhwydwaith technoleg Cymru) a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth gyda chymorth partneriaid o’r diwydiant a Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ŵyl, Idris Price, sydd hefyd yn gyfarwyddwr ESTnet (rhwydwaith technoleg Cymru): “Mae’r Ŵyl Arloesedd yn dychwelyd gyda’r nod clir o adeiladu ar lwyddiant 2016 na welwyd ei fath o’r blaen, i hyrwyddo’r diwylliant unigryw o arloesi sy’n bodoli ym mhob rhan o Gymru. Gyda chymorth gwych arloeswyr fel Canolfan Bwyd Cymru rydym yn sicr o gyrraedd ein nod.”

 

I gadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn ffoniwch Canolfan Bwyd Cymru ar 01559 362230 neu e-bostiwch gen@foodcentrewales.org.uk

 

I gael rhagor o fanylion am yr Ŵyl ewch i www.festivalofinnovation.org


Current track

Title

Artist