Diddordeb mewn gwirfoddoli?

Mae Radio Bronglais FM yn elusen gofrestredig a mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn dibynnu yn llwyr ar ein tîm gwirfoddol. Rydym pob amser yn edrych ymlaen at gyfarfod gwirfoddolwyr eraill sy’n awyddus i ymuno.

Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, ond rydym i gyd yn rhannu diddordeb mewn cerddoriaeth, radio, ac ymrwymiad i ddod a gwen i wyneb ein gwrandawyr. Rydym pob amser yn edrych am fwy o fobol i ymuno hefo’r orsaf ym mhob maes, fel cyflwynwyr, fel rhan o’n gwasanaeth cyfeillo, neu trwy helpu ni i godi arian.

Os oes gennych chi ychydig o oriau sbâr pob wythnos, a diddordeb mewn ymuno hefo Radio Bronglais, byddem wrth ein bodd clywed gennych chi! Gallwch chi fod yn fyfyriwr yn y brifysgol, efallai eich bod wedi ymddeol, neu gwneud ychydig o waith gwirfoddol o gwmpas eich swydd bresennol.

Os hoffech ymuno, ebostiwch ni ar cyswllt@radiobronglais.cymru. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal, a byddem yn ymateb cyn gynted a phosib.

Disgrifiad Rôl Gwirfoddolwyr Radio Bronglais (PDF)



Current track

Title

Artist