Wythnos Gofalwyr 2020 – Merri a Steff
Gofalwyr Ceredigion Carers 11 Mehefin 2020
Mae Gofalwyr Ceredigion wedi creu cyfres sain arbennig ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2020.
Mae mesurau cyfnod clo Coronafeirws wedi arwain at lu o heriau ar gyfer gofalwyr. Ar gyfer y gyfres arbennig hon, rydym wedi cyfuno gofalwyr o gefndiroedd amrywiol, ac mae sgwrsio â nhw wedi rhoi cipolwg inni o’u bywydau a chyfrifoldebau. Nid yw’r gofalwyr sy’n cael eu dangos yn y gyfres erioed wedi cwrdd â’i gilydd o’r blaen.
Rhieni ifainc sydd hefyd yn ofalwyr yw Merri a Steff – mae gan y ddau ohonynt feibion awtistig. Roedd gweithiwr estyn allan Gofalwyr Ceredigion wedi sylwi fod ganddynt lawer yn gyffredin â’i gilydd a gofynnodd a fyddent yn hoffi cysylltu â’i gilydd trwy’r Cynllun Bydi i Ofalwyr. Cytunodd y ddau, ac maent wedi cadw mewn cysylltiad ar gyfryngau cymdeithasol ers dechrau’r cyfnod clo. Yma, maen nhw’n trafod heriau, pleserau ac ansicrwydd bywyd yn ystod y cyfnod clo.