Wythnos Gofalwyr 2020 – Ann a Liz
Gofalwyr Ceredigion Carers 12 Mehefin 2020
Mae Gofalwyr Ceredigion wedi creu cyfres sain arbennig ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2020.
Mae mesurau cyfnod clo Coronafeirws wedi arwain at lu o heriau ar gyfer gofalwyr. Ar gyfer y gyfres arbennig hon, rydym wedi cyfuno gofalwyr o gefndiroedd amrywiol, ac mae sgwrsio â nhw wedi rhoi cipolwg inni o’u bywydau a chyfrifoldebau. Nid yw’r gofalwyr sy’n cael eu dangos yn y gyfres erioed wedi cwrdd â’i gilydd o’r blaen.
Yn ddiweddar mae Ann a Liz wedi gorfod addasu i fywyd ar ôl diwedd rôl gofal. Sgwrs hynod onest a thyner. Y drydedd yn y gyfres sain arbennig ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2020.