Y Sioe Gymraeg yn dathlu’r 100fed sioe!

Written by on 27 March 2019

Ar y 25ain o Fawrth 2019, dathlodd Y Sioe Gymraeg y ganfed bennod ar Radio Bronglais hefo Tom Cartwright yn cyflwyno.

Ers i’r sioe ddechrau ar y 1af o Fai 2017, mae’r sioe wedi bod yn chwarae’r gerddoriaeth Gymraeg ddiweddaraf, yr hen glasuron, a’r holl geisiadau a dderbynir. Mae hefyd wedi cynnwys sgyrsiau ac un neu ddau o ‘features’ wythnosol, i geisio rhoi dewis a chymysgedd i bob math o wrandawr.

Mae modd i chi ymuno hefo’r dathlu a fu, ac edrych yn ol ar hanes Y Sioe Gymraeg trwy wrando ar sioe nos Lun isod. A chofiwch ymuno unwaith eto am sioe 101 ar y 1af o Ebrill 2019!


Current track

Title

Artist