Mae Gofalwyr Ceredigion wedi creu cyfres sain arbennig ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2020.
Mae mesurau cyfnod clo Coronafeirws wedi arwain at lu o heriau ar gyfer gofalwyr. Ar gyfer y gyfres arbennig hon, rydym wedi cyfuno gofalwyr o gefndiroedd amrywiol, ac mae sgwrsio â nhw wedi rhoi cipolwg inni o’u bywydau a chyfrifoldebau. Nid yw’r gofalwyr sy’n cael eu dangos yn y gyfres erioed wedi cwrdd â’i gilydd o’r blaen.
Yn y rhifyn hwn, cawn glywed gan John ac Eric - mae eu gwragedd wedi symud i gartrefi gofal yn ddiweddar, ac nid ydynt wedi gallu ymweld â’u gwragedd ers cychwyn y cyfnod clo.