Diddordeb mewn gwirfoddoli?
Mae Radio Bronglais FM yn elusen gofrestredig a mae'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn dibynnu yn llwyr ar ein tîm gwirfoddol. Rydym pob amser yn edrych ymlaen at gyfarfod gwirfoddolwyr eraill sy'n awyddus i ymuno.
Mae ein gwirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, ond rydym i gyd yn rhannu diddordeb mewn cerddoriaeth, radio, ac ymrwymiad i ddod a gwen i wyneb ein gwrandawyr. Rydym pob amser yn edrych am fwy o fobol i ymuno hefo'r orsaf ym mhob maes, fel cyflwynwyr, fel rhan o'n gwasanaeth cyfeillo, neu trwy helpu ni i godi arian.
Os oes gennych chi ychydig o oriau sbâr pob wythnos, a diddordeb mewn ymuno hefo Radio Bronglais, byddem wrth ein bodd clywed gennych chi! Gallwch chi fod yn fyfyriwr yn y brifysgol, efallai eich bod wedi ymddeol, neu gwneud ychydig o waith gwirfoddol o gwmpas eich swydd bresennol.
Disgrifiad Rôl Gwirfoddolwyr Radio Bronglais (PDF)
Gwneud cais i wirfoddoli
Llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal, a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosib.
Datganiad
Drwy anfon y ffurflen hon rwy'n cadarnhau bod y wybodaeth a roddais yn gywir ac yn gyflawn. Rwy'n derbyn, os byddaf yn cadw gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, neu'n rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, y gellir gwrthod fy nghais, neu os caf fy mhenodi, y gellir fy niswyddo. Os bydd fy nghais yn llwyddiannus, rwy'n cytuno y bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw ar y safle ac y bydd Radio Bronglais yn cysylltu â mi ynglŷn â chyfweliad a chyfarfod sefydlu. Os oes angen un ar gyfer fy rôl, rwy'n cytuno i wiriad DBS.
Os caf fy mhenodi, byddaf yn rhoi gwybod i Radio Bronglais ar unwaith os caf fy nghyhuddo o drosedd newydd, neu fy nghael yn euog ohoni, yn y DU neu mewn unrhyw wlad arall. Rwy'n deall na fydd fy manylion personol yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall heb fy nghaniatâd. Fel gwirfoddolwr, rwy'n cytuno i ddilyn rheolau Radio Bronglais bob amser ac i gadw at fy oriau gwirfoddoli y cytunwyd arnynt cyn belled ag y gallaf.